Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd yn ysgol gynradd wedi'i lleoli ym Metws, Pen-y-bont ar Ogwr Cymru. Darparwn addysg ddwyieithog i Gwm Garw a Chwm Ogwr a'r ardal gyfagos.
Pob Un Yn Cyfri, Pob Un Yn Cyflawni yw ein blaenoriaeth ni yn yr ysgol. Mae creu amgylchedd hapus a gofalgar lle gall eich plentyn deimlo'n ddiogel yn dra phwysig. Mae'r addysg a ddarparwn yn cyd-fynd yn ofalus ag anghenion dysgu unigol pob un disgybl, llais disgyblion sy’n gyrru’r ysgol a’n penderfyniadau. Ein nod yw darparu amgylchedd cynnes, croesawgar a hapus lle mae disgyblion yn cael eu hannog i gyflawni eu llawn botensial a datblygu i fod yn ddinasyddion cyfrifol ac yn ddysgwyr gydol oes.
Rydym yn ysgol sydd yn cynnig cyfleoedd. Rydym yn darparu profiadau i bob unigolyn. Nod ein gwefan Ysgol yw rhoi blas i chi o'r ysgol, yn ogystal â darparu gwybodaeth gyfoes i rieni, disgyblion a'r gymuned ehangach. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'ch ymweliad â'n gwefan, a'ch bod chi'n dod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani. Mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd is a Primary school situated in Betws, Bridgend South Wales. We provide bilingual education for Cwm Garw and Cwm Ogwr and the surrounding area.
Our school moto at Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd is that everyone matters and everyone achieves. We offer a happy and caring environment where your child can feel safe and secure. The education we provide is carefully matched to the learning needs of individual children, pupil voice is of great importance to us. Our aim is to provide a warm, welcoming and happy environment where pupils are encouraged to achieve their full potential and develop into responsible citizens and life long learners.
We are a busy and friendly school, with lots going on to provide experiences for each individual. The School website aims to give you a taster of the school, as well as providing up to date information for parents, pupils and the wider community. We hope that you enjoy your visit to our website, and that you find the information you are looking for. Please feel free to contact the school direct with any queries you may have.
Diolch