Images protected by Greenhouse School Websites

Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd

  • Search this websiteSearch Site
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • School Gateway School Gateway

Galeri #TeuluCyC Gallery

Blwyddyn 4 / Year 4 2025-2026

 

 

Senedd / Welsh Assembly 21st Oct 2026
10 images

Ymweliad Cyngor Ysgol â'r Senedd Heddiw, cafodd aelodau o Gyngor Ysgol gyfle gwych i ymweld â'r Senedd ym Mae Caerdydd. Roedd y disgyblion yn falch iawn o gynrychioli'r ysgol a rhannu gwybodaeth am ein systemau a'n gwaith fel cynrychiolwyr ein cyngorhau ysgol. Yn ystod y dydd, dysgodd y cynghorwyr am rôl y Senedd, sut mae deddfau'n cael eu gwneud, a sut mae Aelodau o'r Senedd yn gweithio i gynrychioli pobl Cymru. Cawsant hefyd y cyfle i gymryd rhan mewn dadl fer, datblygu eu sgiliau siarad a gwrando, a mynegi eu barn ar faterion sy'n bwysig iddynt. Roedd yn fraint cael trafod gyda Elin Stephens, cynrychiolydd Plaid Cymru, am y gwaith sy'n digwydd yn y Senedd ac am ffyrdd y gallai'r Senedd gefnogi ysgolion a phobl ifanc ledled Cymru. Rhannodd ein disgyblion eu syniadau'n hyderus a gofyn cwestiynau meddylgar am faterion sy'n effeithio ar eu haddysg a'u cymuned. Roedd yr ymweliad yn brofiad gwerthfawr a ysbrydoledig a helpodd y disgyblion i ddeall pwysigrwydd democratiaeth, cyfranogiad a sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed. Bydd y wybodaeth a'r profiadau a gafwyd heddiw yn helpu'r Cyngor Ysgol wrth barhau i ddatblygu a gwella ein hysgol. Rydym yn falch iawn o'r modd aeddfed a phroffesiynol y gwnaeth ein disgyblion gynrychioli'r ysgol drwy gydol y diwrnod. 👏🏽🏫🏛️ Rydym yn falch iawn o'r modd aeddfed a phroffesiynol y gwnaeth ein disgyblion gynrychioli'r ysgol drwy gydol y diwrnod. 👏🏽🏫🏛️ Today, members of our School Councils had the exciting opportunity to visit the Senedd in Cardiff Bay. The pupils proudly represented our school and shared information about our school council system and how pupil voice helps shape decisions across the school. During the visit, the children learned about the role of the Senedd, how decisions are made in Wales, and how Members of the Senedd work to represent their communities. They also took part in a short debate, where they developed their speaking

 

↑